Rhwydwaith o Ffermwyr

Rydym wedi helpu tyfwyr adfywiol lleol i greu rhwydwaith, sy’n cynnwys 16 o ffermydd bach ar hyn o bryd.

Buddion Aelodau’r Rhwydwaith
Cefnogaeth marchnata
Hyrwyddo ar y cyd i bobl leol i’w hannog i brynu bwyd a dyfir yn lleol, o dan y brand organig (o fis Ebrill 2023).

Pŵer prynu ar y cyd
Mae prynu gyda’ch gilydd mewn swmp yn helpu i ostwng prisiau.

Caffael
Cyd-drafod ag ysgolion lleol, ysbytai a chartrefi gofal i ddefnyddio bwyd lleol.

Rhyng-fasnachu
Cyfnewid a gwerthu cynnyrch dros ben rhwng tyfwyr i gynyddu incwm ac osgoi gwastraff bwyd.

Buddsoddiad
Buddsoddi ar y cyd mewn datgarboneiddio (e.e. cerbydau trydan) a hyfforddiant.

Allgymorth
Creu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant ac allgymorth cymunedol.

Gwybodaeth a chefnogaeth a rennir
Darparu cyfleoedd i dyfwyr ddod at ei gilydd a rhannu profiad, gan gynyddu eu gwybodaeth a thorri’r unigedd sy’n gyffredin ymhlith ffermwyr.

Bettws Farm
Bettws

Tir Awen
Govilon

Blas Gwent
Gwent Levels

The Field
Llanbedr

Orchard Acre
Llanvaply

Gwynfe Growers
Llangadog

Bryn Celyn
Aberhonddu

Langtons Farm
Crughywel

Wye Organic
Rhosan ar Wy

Os ydych chi eisiau cysylltu â’r Gynghrair Adfywio, cysylltwch â ni yma!

9 + 8 =

Ein Partneriaid

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cynghor Sir Fynwy
Conservation Farming Trust
Welsh Government