Ymhlith ein partneriaid ar gyfer y prosiect arloesol hwn mae Cyngor Sir Powys (sy’n darparu’r tir), Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Shared Assets, Landworkers’ Alliance, Cultivate, Nature Friendly Farming Network, Lantra, Coleg y Mynydd Du, Ecological Land Cooperative, Eco Dyfi a Chonsortiwm Gwlad.
Lluniau o Ffermydd Sarn
Recriwtio ar gyfer Ffermydd Sarn
Mae’r dyddiad cau i ymgeisio am Ffermydd Sarn wedi mynd bellach, ond os hoffech dderbyn manylion cyfleoedd newydd, gallwch anfon ebost atom trwy’r dudalen cysylltu. Rydym yn chwilio am dyfwyr profiadol sy’n gallu sefydlu eu mentrau newydd yn gyflym, ac a fydd yn ffynnu’n fuan iawn.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar:
- >O leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio ar fferm ffrwythau a llysiau sy’n gwerthu ei chynnyrch e.e. naill ai fel arweinydd neu dyfwr cynorthwyol neu brentis, ac yn ddelfrydol yn helpu cynllunio a rheoli’r fenter.
- >Mynediad at ddigon o gyllid sefydlu ar gyfer eu menter newydd arfaethedig.
- >Dealltwriaeth gadarn o dyfu ecolegol.
- >Cymhelliant i fod yn rhan o fudiad i fwydo’r gymuned, a’r hyblygrwydd i roi cynnig ar ddulliau newydd.
- >Parodrwydd i gydweithio gyda ffermwyr eraill mewn lleoliadau cyffredin.
- >Sensitif i bryderon cymdogion, a’r bwriad i integreiddio i’r gymuned leol.
- >Ymwybyddiaeth o farchnadoedd potensial, sut y gallwch eu cyrraedd, a pha gymorth byddai ei angen i wireddu hyn.
- >Parodrwydd/gallu i gyfrannu at adeiladu seilwaith y fferm o safbwynt ymarferol.
Ein gweledigaeth
Rydym am greu rhagor o ffermydd bach ar draws Powys. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu “ymddiriedolaeth ffermdir” sy’n gallu caffael ar dir ar sail perchnogaeth y gymuned, ac adeiladu ffermydd arno, yn debyg i ffermydd Sarn.
Bydd hyn yn arwain at nifer o fuddion:
- Cyfleoedd i genhedlaeth newydd o ffermwyr i greu bywoliaeth ym Mhowys.
- Marchnadoedd newydd ar gyfer ffermydd Powys – cymunedau lleol, trefi a dinasoedd, a thrwy gaffael cyhoeddus.
- Cadwyni cyflenwi sy’n eiddo i ffermwyr gyda llai o ddynion canol, er mwyn i ffermwyr gadw rhagor o’r elw.
- Diogelwch bwyd – ffynonellau bwyd mwy amrywiol o ran y bwyd rydym yn dibynnu arno, gan gynnwys ffynonellau mwy lleol.
- Swyddi newydd, sgiliau newydd a buddsoddiad newydd.
- Rhagor o gysylltiadau o fewn y gymuned wrth i ffermwyr a thrigolion masnachu â’i gilydd.
- Meithrin cyflenwad newydd o fwyd iachus, llawn maeth, is o safbwynt carbon i’w fwyta’n lleol.
- Dulliau ffermio amaethecolegol sy’n diogelu bioamrywiaeth a’n hafonydd.