Learn More

Rhywogaethau Treftadaeth

Mae gennym chwe amrywiad lleol. Maen nhw’n ffynnu yn eu pridd cynhenid.

Mae pedwar rheswm i dyfu ein hamrywiadau treftadaeth leol!

Ein stori ni ydyn nhw

Mae treftadaeth leol a llysiau etifeddol yn rhan o stori ein bwyd. Mae eu dathlu yn atgyfnerthu ein hunaniaeth â’n tir.

Maen nhw'n flasus

Maent yn flasus ac wedi’u haddasu’n dda i amodau tyfu lleol mor hawdd eu trin.

Maen nhw'n helpu ein sicrwydd bwyd

Mae cadw ein hamrywiadau lleol yn sicrhau amrywiaeth barhaus o gnydau bwytadwy a chyda hynny mwy o sicrwydd bwyd.

Mae angen eu diogelu

Maent yn brin ac mewn perygl. Mae eu tyfu a’u bwyta yn sicrhau eu bod yn parhau i oroesi.

1. Graham’s Tom Thumb Tomato

Mae tomato Tom Thumb Graham yn domato ceirios hyfryd â chroen tenau. Fe’i rhoddwyd i Adam Alexander (Cyfarwyddwr Our Food 1200) gan dyfwr yng Nghaerdydd a oedd wedi bod yn ei dyfu ers y 1970au. Roedd ei gymydog wedi bod yn tyfu’r amrywiad hwn ers o leiaf 40 mlynedd cyn hynny ; felly etifedd Cymreig go iawn, yn tarddu yn ôl pob tebyg o’r Eidal.

Prynwch gan Hwb Hadau Cymru.

2. Ffa Rhedwr Stenner

Mae Ffa Dringo Stenner yn enwog ymhlith tyfwyr sy’n cystadlu ledled y DU. Brython Stenner o Gefn Cribwr yn ne Cymru a’i magodd, a’r ffeuen flasus hon yn ddiau oedd y pencampwr am flynyddoedd lawer yn y 1970au a’r 1980au. Mae’n dal i gael ei dyfu ar gyfer cystadlaethau ac i’w bwyta. O dro i dro mae Ffa Dringo Stenner ar gael gan dyfwyr masnachol.

Prynwch gan Hwb Hadau Cymru.

3. Ffa Ffrengig Nyrs Ardal

Fel y mae’r enw’n awgrymu, nyrs ardal a dyfwyd y Nyrs Ardal French Bean gyntaf. Mae bellach yn cael ei gadw gan y Llyfrgell Hadau Treftadaeth ac fe’i rhoddwyd iddynt gan wraig yng Nghaerdydd. Mân godau brith porffor o ansawdd rhagorol, i’w bwyta’n ffres ac fel ffa heb fasgl. Ffeuen Ffrengig unigryw o etifeddiaeth Gymreig yw hon. Nid oes llawer o’r ffa hyn ar gael yn fasnachol, ond erbyn hyn mae’n yn cael ei thyfu ar gyfer cwsmeriaid yn y Fenni a Chrughywel.

Prynwch gan Hwb Hadau Cymru.

4. Ffa Rhedwr Du Rhondda

Cafodd Ffa Dringo Du’r Rhondda ei magu gan Alan Picton o’r Rhondda, garddwr hynod frwdfrydig. Pencampwr o ffeuen go iawn, hir iawn gyda blas rhagorol, bellach, trosglwyddwyd yr hadau i Adam Alexander pan nad oedd Alan yn gallu eu tyfu ei hun bellach.

I’w prynu, cysylltwch â Real Seeds.

5. Ffa Rhedwr Du Aberhonddu

Achubwyd y ffa bwrdd hyn rhag difodiant gan yr Irish Seed Savers a chafodd ei thyfu eto yn Sir Fynwy gan Adam Alexander. Amrywiad gyda hadau du yw hwn, oedd yn cael ei dyfu’n eang yn yr ardal leol, ac mae bellach ar gael yn fasnachol unwaith eto. Ffa bendigedig i’w bwyta ydynt, ond ni fydd yn ennill y gystadleuaeth ar gyfer y ffa hiraf!

I’w prynu, cysylltu â ni.

6. Pys Llanover

Cyrhaeddodd pys 1.8m o daldra hyn Ystâd Llanofer trwy garcharor rhyfel Almaeneg oedd yn dychwelyd i’r ardal ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gofynnodd am briodi un o weision y tŷ mawr ar ôl syrthio mewn cariad gyda hi tra roedd yn garcharor. Bu bron i Bysen Llanofer gael ei cholli ar ôl cael ei rhoi i’r Llyfrgell Hadau Treftadaeth dros ugain mlynedd yn ôl, ond ers hynny mae Adam Alexander wedi ei datblygu. Bellach mae’r trysor hwn yn tyfu unwaith eto yng ngardd furiog Ystâd Llanofer, ac yn cael ei mwynhau gan lawer o gwsmeriaid lleol.

Prynwch gan Hwb Hadau Cymru.