Learn More

Eisiau! Tyfwr profiadol i ymuno â’n Bwrdd

Board Role

Mae Bwrdd Ein Bwyd 1200 ar hyn o bryd yn bwriadu penodi cyfarwyddwr gwirfoddol ychwanegol gyda phrofiad uniongyrchol o gynhyrchu ffrwythau a llysiau agroecolegol masnachol ar raddfa fach a/neu ar raddfa maes yng Nghymru.

Mae ein Pecyn Recriwtio yn esbonio mwy am y rôl ac yn rhoi manylion am sut i wneud cais, ond yn gryno, penodir cyfarwyddwyr am gyfnod o dair blynedd, gyda’r Bwrdd yn cyfarfod yn bersonol neu ar-lein bob dau neu dri mis. Mae cyfarwyddwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn unol â’u sgiliau a’u hamser.

Mae’r Bwrdd yn deall yn iawn bod tyfwyr yn byw bywydau prysur iawn a byddant mor hyblyg â phosibl gydag ymrwymiadau amser.

Mae hwn yn gyfle gwych i fwrw ymlaen â nodau Ein Bwyd 1200, ac i helpu i lunio ein strategaeth a’n cyfeiriad. Mae hefyd yn ffordd wych o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, ac i ategu a gwella sgiliau cyfunol presennol y Bwrdd.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!

 

 

Diweddariadau

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill

Gwelwch y cwbl