Learn More

Sefydlu Ymddiriedolaeth Ffermdir

Crickhowell 1930s

Mae’r llun yn dangos Crughywel yn y 1930au. Mae’r ardal garddwriaeth yn y llun bellach yn faes parcio, canolfan ymwelwyr ac ystâd o dai – sy’n nodweddiadol o drefi ar draws Cymru gyfan.

Ar un adeg roedd ffermydd bach oedd yn gwasanaethu marchnadoedd lleol yn gyffredin iawn yng Nghymru, ond ers yr Ail Ryfel byd mae’r economi bwyd wedi diboblogi ffermio, ac wedi datblygu cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang. Bellach mae’r rhan fwyaf o’r bwyd a dyfir yn ein rhanbarth yn cael ei allforio, ac mae mwyafrif y bwyd sy’n cael ei fwyta yma’n cael ei fewnforio.

Trwy ein gwaith ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phowys, daethpwyd i’r casgliad taw’r cyfyngiad sylfaenol o ran y math yma o ffermio, yw diffyg mynediad at dir gyda llety fforddiadwy. Nid yw ffermwyr ifainc newydd sydd â sgiliau mewn tyfu masnachol ar raddfa fach yn gallu fforddio prynu ffermydd. Ni arweiniodd arbrawf i’w helpu prydlesu tir gan ffermwyr a thirfeddianwyr presennol at ddull fyddai’n rhwydd ei ehangu: mae gormod o rwystrau cyfreithiol, biwrocrataidd, ariannol a chorfforol.

Mae Ein Bwyd 1200, trwy gyllid a dderbyniwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amaeth wedi creu ffilm am brofiad y ffermwyr newydd hyn: Ein Bwyd, Ein Dyfodol.

Felly, dyma ni’n cychwyn ar strategaeth pedwar cam:

  1. Datblygiad peilot o dair fferm fach newydd i brofi costau cynllunio, buddsoddi a recriwtio ffermwyr.
  2. Dylunio Ymddiriedolaeth Ffermdir sy’n prynu tir ac yn datblygu ffermydd bach newydd: cynllun busnes, amcanestyniadau ariannol, strwythur sefydliadol.
  3. Peilota’r Ymddiriedolaeth Ffermdir newydd gyda chronfa buddsoddi o £10miliwn.
  4. Ehangu i gronfa buddsoddi gwerth £100miliwn . Rydym yn trafod hyn gyda Wye-Usk Transition Lab.

Yr Ymddiriedolaeth Ffermdir: y cysyniad

Bydd yr Ymddiriedolaeth Ffermdir, yn unol â’i chyfansoddiad fel ymddiriedolaeth tir cymunedol dielw, yn caffael ar ffermdir a’i droi’n ffermydd bach gyda chartrefi ar gyfer cenhedlaeth newydd o ffermwyr sy’n tyfu yn ôl egwyddorion amaethecolegol ar gyfer marchnadoedd lleol.

Byddwn yn dylunio’r Ymddiriedolaeth ar sail archwilio ymddiriedolaethau ffermdir llwyddiannus eraill, a gofynion buddsoddwyr. Fel man cychwyn, ein cynnig yw:

  • > Prynu ffermydd a ffermdir.
  • > Ail-werthu adeiladau mawr nad ydynt yn addas ar gyfer ffermio ar raddfa fach, gyda thir cymedrol ei faint o’u cwmpas. Mae llawer o alw am yr adeiladau hyn yn y farchnad dai cyfoethog.
  • > Adeiladu grwpiau bach o ffermydd bach, rhyw 3-10 erw’r un, gyda chartref teuluol cyfforddus, adleoladwy gyda phob un.
  • > Rhentu’r ffermydd am bum mlynedd.
  • > Ar ôl pum mlynedd, ac ar ôl i bob menter ffermio brofi ei hyfywedd, naill ai: gwerthu prydles hirdymor (100 mlynedd+) i’r ffermwr, gydag amod bod yn rhaid defnyddio’r tir i’w ffermio. Cynnwys y cartref wrth werthu, neu ei symud a’i ail-ddefnyddio rhywle arall er mwyn i’r ffermwr allu adeiladu ei annedd newydd ei hun.
  • > Neu: ar gyfer ffermwyr sydd am barhau i rentu neu brynu’r brydles yn raddol, gwerthu’r ffrwd incwm rhentu i gorff sy’n arbenigo mewn buddsoddiad tymor hwy.
  • > Ailgylchu’r buddsoddiad i adeiladu rhagor o ffermydd.

Er mwyn galluogi ffermydd newydd i ffynnu (ac o ran hynny, llawer o ffermydd eraill yn ein rhanbarth), mae angen inni greu seilwaith cefnogol.

I’r perwyl hwn, mae’r prosiectau canlynol ar y gweill ochr yn ochr â chreu Ymddiriedolaeth Ffermdir.

Caniatâd cynllunio

Un o’r prosiectau cyfredol gyda Chyngor Sir Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw llunio canllawiau cynllunio newydd sy’n galluogi creu ffermydd bach gyda chartrefi a seilwaith addas. Yn y gorffennol, mae cynllunio wedi bod yn rhwystr mawr, ond ymddengys ein bod ar fin datrys hyn. Bydd prosiect peilot Sarn yn profi’r canllawiau newydd ar gyfer Powys.

Cadwyni cyflenwi

Unwaith y bydd ffermydd yn dechrau tyfu, bydd mynediad at farchnadoedd yn her oherwydd mae’r economi bwyd lleol wedi cael ei erydu cymaint. Mae cadwyni cyflenwi presennol i gyfanwerthwyr ac archfarchnadoedd yn arwain at brisiau annheg ar gyfer ffermydd.  Rydym wrthi’n datblygu prosiect i fagu cadwyni cyflenwi newydd sy’n eiddo i’r ffermwyr ar gyfer marchnadoedd lleol a rhai dinasoedd.  Rydym eisoes wedi sefydlu Bannau Acres casgliad o ffermydd bach, yn sail ar gyfer hyn. Ar yr un pryd, mae awdurdodau lleol yn caffael rhagor o fwyd gan ffynonellau lleol. Mae Powys newydd gyhoeddi contract newydd sylweddol i brynu rhagor o fwyd ar gyfer ysgolion gan gyflenwyr lleol trwy’r cwmni cyfanwerthu a dosbarthu o Gymru, Castell Howell.

Ffermwyr newydd

Mae’r coleg hyfforddi lleol, Coleg y Mynydd Du yn rhedeg Diploma NVQ Lefel 2 mewn Garddwriaeth Atgynhyrchiol, ac yn derbyn 20 myfyriwr y flwyddyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn cyfateb i gyflenwad da o ffermwyr y dyfodol, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer internaethau dan hyfforddiant ar ffermydd lleol, sy’n cynnig profiad ymarferol hynod werthfawr yn ei dro am weithio. Byddwn yn cefnogi ehangu’r hyfforddiant yma.

Polisi Llywodraeth Cymru

O ganlyniad i ymdrechion ein sector, bydd y math o ffermio rydym yn ei hyrwyddo, oedd yn cael ei eithrio’n gyfan gwbl ar un adeg o gynllun cymhorthdal amaethyddol, nid yn unig yn cael ei gynnwys, ond ei blaenoriaethu yn y dyfodol.  Ar yr un pryd, rydym yn lansio rhaglen diogelwch bwyd er mwyn darbwyllo llywodraethau cenedlaethol a lleol, a chymunedau, i addasu i gyflenwad bwyd fwyfwy anwadal yn y dyfodol. Ymhlith atebion i hyn, gan gynnwys mesurau eraill mae cyflenwadau bwyd mwy amrywiol, gan gynnwys ffrwythau, llysiau a chynnyrch arall a dyfir yn lleol.

Crickhowell 1930s
Crughywel yn y 1930au

Diweddariadau

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill

Gwelwch y cwbl