Mae ffermydd adfywiol bach yn newid y gyfundrefn, ond mae’n her enfawr i’r mentrau hyn wrthsefyll system a adeiladwyd ar gyfer dibenion gwahanol dros ddegawdau lawer. Mae angen i fusnesau newydd ar ffermydd adfywiol ddod at ei gilydd (fydd yn digwydd yn fuan, drwy’r Gynghrair Adfywiol) ac mae angen cymorth arnynt gennym ni ar adegau hollbwysig.
Ni chafodd y gyfundrefn gynllunio ei seilio ar anghenion mentrau ffermio adfywiol bach. I ddangos yr anawsterau a achosir gan hyn i dyfwyr yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, trefnwyd i Brif Weithredwr yr Awdurdod a’i Bennaeth Cynllunio ymweld â safle Fferm Tir Awen yng Ngilwern, sy’n cael ei redeg gan Rob a Zoe Proctor. Mae Rob a Zoe wedi cynnig “Datblygiad Un Blaned“, ond mae’r broses wedi dod i stop mewn cors cynllunio.
Ers hynny rydym wedi cyfarfod o gwmpas y bwrdd gyda theulu Proctor gydag holl adrannau perthnasol yr Awdurdod mewn ymdrech i ddatrys hyn. Achosion unigol sy’n arwain at newid, ac mae Tir Awen yn herio’r system gynllunio ac yn dangos lle mae angen newid.
Maes arall yr ydym yn ei archwilio yw cyllid cychwynnol ar gyfer mentrau ffermio newydd. Felly rydym yn ymchwilio i ofynion, ar ffurf grantiau, benthyciadau neu gymysgedd o’r ddau, ac rydym yn dechrau sgyrsiau gyda sefydliadau ynglŷn â chreu cronfa bwrpasol i ddiwallu anghenion y math newydd hwn o ffermio. Rydym hefyd yn awyddus i ddysgu o fodelau ariannu cychwyn busnes llwyddiannus a sefydlwyd mewn mannau eraill – felly os ydych yn gwybod am unrhyw enghreifftiau da, cysylltwch â ni.
Diweddariadau
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill
Gwelwch y cwbl