Rydym yn chwilio am dir i’w defnyddio ar gyfer ffermydd bach sy’n tyfu ffrwythau a llysiau’n bennaf, i wasanaethu marchnadoedd lleol. Bydd y ffermydd hyn yn:
> tyfu ffrwythau a llysiau’n bennaf. Gall rhai cynnwys nifer fach o dda byw i helpu meithrin ffrwythlondeb y tir a darparu ffrydiau incwm ychwanegol.
> fentrau masnachol sy’n cynnal bywoliaeth i un teulu.
> cael eu rhedeg gan dyfwyr profiadol.
> osgoi defnyddio cemegau niweidiol, ac yn defnyddio dulliau amaethecolegol i feithrin iechyd y pridd ac atafaelu carbon yn y pridd.
Mae’r llun uchod o fferm ar dir a brydlesir yn ardal Crughywel.
Gweler isod y meini prawf ar gyfer tir sy’n addas i’w brydlesu. Os oes gennych chi dir, ac yn credu eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
MEINI PRAWF
3-10 erw, gwastad ar y cyfan, sy’n wynebu’r de.
Dim perygl o lifogydd.
Amwynderau
Cysylltiad trydan.
Cysylltiad dŵr.
Mynediad at ffordd ar gyfer cyflenwadau.
Cartref
Bydd angen presenoldeb 24 awr ar gyfer y math yma o ffermio. Bydd gan rai ffermwyr blant ifanc, neu’n bwriadu cael teulu.
Os nad oes llety yno ar hyn o bryd, byddem yn argymell caban coed neu ysgubor Nissen y gellir ei gludo ar gefn lori, a’i symud oddi yno os daw’r gweithgaredd ffermio i ben. Nid yw carafán yn addas.
Mae angen i’r llety gael cysylltiadau â gwasanaethau, neu’n gallu rhedeg oddi ar y grid yn llwyr.
Diogelwch deiliadaeth
Mae angen sicrwydd o ran deiliadaeth o 5 – 10 mlynedd ar ffermwyr difrifol, er mwyn cymryd y risg o fuddsoddi yn y fferm.
Gellir cynnwys cymalau terfynu mewn contractau prydlesu rhag ofn y bydd pethau’n mynd o chwith.
Caniatâd i adeiladu seilwaith
Er enghraifft: gwelyau llysiau, twneli plastig, sied golchi/pacio, storfa oer, wyneb caled, creu ynni oddi ar y grid, os oes angen.
Gall contract prydlesu bennu bod yn rhaid tynnu’r holl seilwaith a adeiladwyd ar ddiwedd cyfnod y brydles.
Cynllunio
Bydd gofyn i’r ffermwyr a’r tirfeddianwyr gydweithio i gael caniatâd cynllunio unwaith y bydd union fanylebau’r fferm yn hysbys. Mae’r Parc Cenedlaethol a Chyngor Sir Powys yn adolygu eu cyfarwyddyd cynllunio, oherwydd maent yn ffafrio ehangu’r math yma o ffermio. Yn ystod y cyfnod hwn o newid, byddem yn argymell cael sgwrs uniongyrchol gyda’r awdurdodau cynllunio.
Diweddariadau
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill
Gwelwch y cwbl