Learn More

Mesur yr awydd ar gyfer ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol

Orchard Acre harvest

Yn ôl ym mis Rhagfyr dosbarthwyd arolwg ar gyfryngau cymdeithasol, i ganfasio trigolion ar draws ein rhanbarth ar eu harferion a hoffterau siopa o ran ffrwythau a llysiau. Ein nod oedd mesur yr awydd am gynnyrch a dyfwyd yn lleol.

Roedd yr arolwg yn rhan o’n prosiect ehangach, a gyllidir drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020*. Cawsom ymateb gwych, felly mae wedi cymryd cryn amser i ni hidlo’r holl ddata. Ond rydyn ni wedi coladu popeth nawr ac rydyn ni wedi dysgu’r canlynol…

Arferion prynu

Mae mwyafrif yr ymatebwyr (94.5%) yn prynu ffrwythau a llysiau ffres o leiaf unwaith yr wythnos, yn bennaf o’r archfarchnad neu siop annibynnol leol (82.5%). Mae ychydig dros 10% naill ai’n tyfu eu rhai eu hunain neu’n prynu o farchnadoedd lleol, siopau fferm neu’n uniongyrchol gan dyfwyr lleol, gyda 4% ychwanegol yn dewis cynlluniau blychau llysiau cenedlaethol fel Riverford neu Abel a Cole.

Mae’n well gan y rhan fwyaf o’n hymatebwyr siopa am ffrwythau a llysiau yn bersonol – 79.4%, gyda 18.3% yn archebu ar-lein a dim ond 1.6% yn dewis clicio a chasglu. Mae pris, cyfleustra a dewis i gyd yn ffactorau pwysig wrth benderfynu ble i brynu cynnyrch. Ond, ansawdd yw’r sbardun mwyaf (86.6%), wedyn dim deunydd pacio neu ddeunydd pacio cynaliadwy (82.4%), cynnyrch a dyfir yn lleol (80.6%), ôl troed carbon (77.5%) a ffresni neu oes silff/oergell hir (73.2%).

Dywedodd ychydig yn llai na 50% o’r ymatebwyr fod argaeledd ffrwythau a llysiau organig yn ffactor allweddol o ran ble roeddent yn siopa. Ond dywedodd 25.4% nad oedd organig yn bwysig iddyn nhw o gwbl.

Mae pethau eraill sy’n dylanwadu ar ble y mae ymatebwyr yn prynu eu ffrwythau a’u llysiau yn cynnwys blas (gyda llawer o’r farn bod blas gwell ar gynnyrch a dyfir yn lleol), bwyta cynnyrch tymhorol, gwybod o ble mae bwyd yn dod a gallu prynu meintiau bach, er mwyn osgoi gwastraff. Dywedodd pobl hefyd eu bod yn hoffi cefnogi busnesau lleol.

Rhwystrau

O ran sicrhau fod ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol yn gyfran fwy o’u deiet, mae argaeledd yn rhwystr allweddol i lawer o ymatebwyr. Mae pobl hefyd eisiau gallu prynu cynnyrch a dyfir yn lleol drwy gydol y flwyddyn – nid yn unig yn ystod y tymor tyfu, pan fydd llawer o ymatebwyr eisoes yn tyfu o leiaf rhywfaint o’u llysiau eu hunain. Mae ymatebwyr hefyd am weld mwy o ffrwythau wedi’u tyfu’n lleol, a chael amrywiaeth ehangach o lysiau ar gael trwy gydol y flwyddyn.

Mae rhai pobl yn dweud bod mater argaeledd yn ymwneud mwy â’r ffaith nad oeddent yn gwybod ble i ddod o hyd i gynnyrch a dyfwyd yn lleol. Ac i’r ymatebwyr hyn, y newyddion da yw y byddwn yn lansio gwefan newydd yn fuan, gyda chyfeiriadur o dyfwyr lleol i gyd o dan un faner – Bannau Organig. Felly byddwch chi’n gallu defnyddio’ch cod post i ddod o hyd i’ch cynhyrchydd agosaf, p’un ai a ydych chi eisiau cyfleustra blwch llysiau wythnosol a ddosberthir neu i’w gasglu, neu os byddai’n well gennych ddewis eich cynnyrch eich hun o stondin marchnad.

Rhwystr arall ar hyn o bryd yw pa mor bell y mae’n rhaid i bobl deithio i ddod o hyd i fwyd a dyfir yn lleol. I rai ymatebwyr, mae hynny oherwydd eu bod yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw cario bagiau trwm yn ddelfrydol. I eraill mae’n deillio o bryderon ynghylch eu hôl troed carbon. Dywedodd bron hanner ein hymatebwyr y byddent yn fodlon teithio 2-5 milltir, gyda 27.8% yn ffafrio dim ond hyd at 2 filltir a 22.2% yn fodlon ymestyn hynny i hyd at 10 milltir.

Inni, mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd ein nod canolog: sef sicrhau bod ffrwythau a llysiau lleol, a dyfir trwy ddulliau atgynhyrchiol, ar gael ym mhob cymuned – gyda rhwydwaith ar hyd y rhanbarth cyfan o dyfwyr lleol sy’n gwasanaethu eu marchnadoedd lleol.

Ein hymatebwyr

Ac yn olaf, pwy atebodd ein harolwg? Daeth y rhan fwyaf o’n hymatebwyr o Drefynwy, Y Fenni a Chrughywel (64.7%), wedyn Chas-gwent, Brynbuga ac Aberhonddu ac yna Rhaglan, Pont-y-pŵl, Talgarth a’r Gelli Gandryll. Cawsom un ymateb yr un o Fagwyr, Llanymddyfri, a Caldicott. Roedd ein hymatebwyr yn tueddu i fod yn hŷn hefyd, gyda bron 60% dros 55 oed. Ac er bod hyn yn awgrymu bod pobl iau yn llai pryderus am fwyd lleol, yn ein barn ni, mae’n fwy tebygol eu bod yn rhy brysur i ateb arolygon, yn enwedig wrth i’r arolwg gael ei ddosbarthu yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Camau nesaf

Mae’r arolwg wedi datgelu rhai pethau diddorol iawn: pa mor ymroddedig yw llawer o bobl i gael hyd i a chefnogi busnesau lleol, i ba raddau maen nhw’n gwerthfawrogi ffrwythau a llysiau ffres o safon a natur dymhorol – mewn llawer o achosion, yn bwysicach na phris. Ac eto, ar yr un pryd, nid yw statws organig yn bwysig i ryw chwarter ein hymatebwyr. Byddwn yn parhau i ymchwilio i’r canfyddiadau dros y misoedd nesaf, ac i ddod o hyd i ffyrdd i gyrraedd pobl iau, oherwydd gwyddom fod teuluoedd ifanc yn allweddol i dyfu’r farchnad ar gyfer cynnyrch lleol.

Yn y cyfamser, diolch i bawb a gymerodd ran: rydym yn hynod ddiolchgar eich bod wedi rhoi o’ch amser i lenwi’r arolwg – ac am y nifer fawr o sylwadau ac awgrymiadau defnyddiol a anfonwyd atom. Felly dim ond un peth sydd ar ôl inni ei wneud: fel cymhelliad i gwblhau’r arolwg, cynigiwyd cyfle i ymatebwyr ennill blwch llysiau gan un o’n tyfwyr lleol, gyda’r enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr holl gynigion. Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Angharad Underwood o Gas-gwent yw’r enillydd lwcus, a bydd yn derbyn ei gwobr yn fuan iawn.

Darparwyd y cymorth yma drwy’r Cynllun Datblygu Cydweithrediad a’r Gadwyn Gyflenwi – Dulliau Arloesol a Thwf Cydweithredol CSCDS.

Diweddariadau

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill

Gwelwch y cwbl