Mae pobl yn aml yn gofyn i ni pam ein bod yn canolbwyntio ar gynlluniau bocsys llysiau fel sail ar gyfer adeiladu economi bwyd lleol newydd.
Yr ateb syml yw bod mwy neu lai pawb yn prynu o leiaf ychydig o ffrwythau a llysiau ffres bob wythnos o’r flwyddyn.
Ond hefyd, oherwydd y gall ffrwythau a llysiau organig ac adfywiol gyfrannu cymaint mwy at yr economi, o ran iechyd a lles pobl, lleihau llygredd, dal a storio carbon, creu swyddi diogel ac arwyddocaol, cyfoethogi bioamrywiaeth a meithrin cymuned.
Ac mae yna rai ystadegau diddorol i ategu hynny. Ychydig flynyddoedd yn ôl cyhoeddodd y New Economics Foundation* (NEF) adroddiad ar Growing Communities, cynllun bocsys llysiau wythnosol a marchnad ffermwyr yn Llundain.
Roedd yr NEF wedi ystyried effaith gweithrediadau Growing Communities ar ddefnyddwyr, ffermwyr, gweithwyr a’r amgylchedd, ac ar ôl tipyn o brosesu data, darganfuwyd y canlynol:
Mae pob £1 sy’n cael ei wario gan gwsmer trwy Growing Communities, yn creu £3.73 o fuddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae’r ffigur hwn yn cynnwys costau economaidd, anariannol cynhyrchiant is oherwydd ffermio organig. Os na chaiff y costau hyn eu cynnwys, mae’r gymhareb cost a budd yn cynyddu i £3.98 a gynhyrchir am bob £1.
A gellir dadansoddi hynny fel a ganlyn:
- gwerth £3.46 o fuddion i’r bobl sy’n bwyta’r bwyd (gan gynnwys gwerth y bwyd ei hun)
- 32c ar gyfer yr amgylchedd
- 11c i’r ffermwyr
- 7c ar gyfer staff Growing Communities.
Yn arwyddocaol, ar gyfer defnyddwyr cynllun blychau llysiau, roedd gwerth gwelliannau mewn iechyd yn fwy na dwbl gwerth y bwyd gwirioneddol. Ond roedd elfen gymdeithasol/lles y cynllun hefyd yn bwysig, gan greu rhyngweithio cymdeithasol gwerthfawr a naws cymunedol. Ac roedd aelodau hefyd yn credu ei fod yn arbed amser gwerthfawr iddynt oherwydd nad oedd yn rhaid iddynt fynd i’r archfarchnad cymaint.
Daeth manteision i’r amgylchedd o atafaelu carbon, arferion ffermio ecogyfeillgar, cadwyni cyflenwi byr, llai o ddeunydd pacio a newidiadau o ran ymddygiad defnyddwyr, gan gynnwys bwyta llai o gig.
I ffermwyr, roedd y manteision hefyd yn amrywiol. Gyda model Growing Communities, mae ffermwyr yn cael 50% o’r pris gwerthu – mwy na theirgwaith yr hyn y bydden nhw’n ei gael yn y system archfarchnadoedd byd-eang. Ac er bod ffermwyr yn dweud bod y sicrwydd ariannol cynyddol yn bwysig, y budd mwyaf oedd teimlo bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi mwy. Oherwydd eu bod tu allan i system yr archfarchnad, roeddent hefyd yn mwynhau mwy o ymreolaeth dros yr hyn yr oeddent yn ei gynhyrchu ac yn teimlo llai o bwysau i ehangu eu gweithrediadau.
Wrth gwrs, un astudiaeth yn unig yw hon, ond mae’n awgrymu y gall y cynllun blwch llysiau syml iawn fod yn fuddiol iawn i gymunedau. A dyna pam rydym yn awyddus i sicrhau fod gan bob cymuned yn ein rhanbarth fynediad at gynllun lleol.
Ond dim ond rhan o’r ateb yw sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau ar gael yn lleol. Hefyd mae angen inni dyfu’r farchnad ar gyfer cynnyrch lleol drwy ddarbwyllo mwy o bobl i wneud y newid.
A dyna’r union bwnc y byddwn yn mynd i’r afael ag ef yn ein gweithdy Zoom nesaf, ar 10 Tachwedd am 2pm. Bydd Julia Kirby-Smith o Growing Communities yn ymuno â ni; hi yw arweinydd prosiect Masnachwyr Bwyd Gwell, partneriaeth masnachwyr bwyd moesegol. Bydd hi’n rhannu ei phrofiadau 25 mlynedd gyda Growing Communities, ac edrychwn ymlaen at ddysgu llawer ganddi.
* “Farmer Focused Routes to Market: gwerthusiad o gyfraniad cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Growing communities”, Rhagfyr 2020, Christian Jaccarini, Manuela Lupton-Paez a Jasmeet Phagoora. Cyllidwyd gan Farming the Future.
Diweddariadau
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill
Gwelwch y cwbl