Learn More

Gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Fynwy

Bannau Brycheiniog

Rydym mor ffodus yn ein rhanbarth i gael awdurdodau lleol mor gefnogol, sef Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Fynwy.

Mae’r ddau yn cydnabod pwysigrwydd system fwyd newydd ei gael mewn dyfodol carbon isel cynaliadwy.

Rydym wedi cyfrannu at gynllun rheoli newydd y Parc Cenedlaethol, sy’n debygol o ragweld cynnydd sylweddol mewn ffermio ar raddfa fach ar gyfer marchnadoedd lleol. Ac yn Sir Fynwy, rydym yn aelod o’r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy. Trwy hyn hoffem weithio gydag eraill ar faterion sydd o bwys mawr ond na allwn fynd i’r afael â hwy ar ein pen ein hunain. Er enghraifft, hoffem fynd i’r afael â rôl bwyd lleol o ran gwella tlodi bwyd, sut yr ydym yn addysgu plant i ddeall bwyd yn well, a sut i gyflenwi bwyd lleol i’r sector cyhoeddus.

Byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar ein cydweithrediad â’r ddau awdurdod ac yn gwahodd ein rhanddeiliaid i ymuno yn y sgwrs.

FFoto gan Samuel Thompson ar Unsplash

Diweddariadau

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill

Gwelwch y cwbl