Uchod: Lewis Williams, hyfforddai lleoliad gwaith, yn cael cyngor arbenigol ar dyfu perlysiau micro gan Katherine Langton yn Langtons Farm.
Mae’r lleoliadau gwaith ar y fferm wedi hen ddechrau bellach, gyda thyfwyr dan hyfforddiant yn cael profiad ymarferol o’r tasgau o ddydd i ddydd a’r cynllunio sydd ei angen i redeg menter arddwriaeth adfywiol lwyddiannus.
Gorffennwyd chwech o’r lleoliadau pum niwrnod eisoes, gyda chwech arall hanner ffordd drwodd a 12 wedi’u trefnu ar gyfer nes ymlaen yn y gwanwyn. Ar gyfer hyfforddeion, mae’r lleoliadau am ddim, gan ein bod yn talu’r gost diolch i gyllid gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.*
Mae Lewis Williams, 38 oed o’r Coed Duon, ran o’r ffordd drwy ei leoliad ar Fferm Langtons yng Nghrughywel. Cwblhaodd ddau o’i bum niwrnod yno ym mis Ionawr. A thra treuliwyd y diwrnod cyntaf i raddau helaeth yn dysgu’r sylfeini, gyda’r perchenogion Katherine a David yn ei ddangos o amgylch eu fferm dair erw a’r ardaloedd gwaith amrywiol, roedd yr ail ddiwrnod yn gwbl ymarferol, yn clirio safle gwaith newydd, yn hau hadau wedi’u socian ar gyfer perlysiau micro a pharatoi a phacio cynnyrch ar gyfer stondin farchnad wythnosol a blychau llysiau Langtons.
Mae Lewis, a gwblhaodd Dystysgrif Lefel 2 RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol yn 2022 ac sydd ar hyn o bryd wedi cofrestru ar y cwrs Coedlannu a Chrefftau Coed Gwyrdd am flwyddyn yng Ngholeg y Mynyddoedd Duon, yn dal i weithio allan sut olwg fydd ar ei yrfa yn y dyfodol.
“Yn yr ysgol roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud rhywbeth gyda TG neu ieithoedd, ond fe ges i radd mewn hanes a gwleidyddiaeth yn y diwedd. Yn y brifysgol, fues i’n dysgu rheoli bariau a bwytai, yna ar ôl 10 mlynedd o hynny, sefydlais stiwdio dylunio graffeg gyda chydweithiwr. Erbyn i mi adael roedd gennym dîm o 12 ac roedd yn llwyddiannus iawn, ond roeddwn wedi rhoi’r gorau i’r ochr ddylunio i reoli’r busnes ac roeddwn i’n colli’r creadigrwydd.”
Rhoddodd y cyfnod clo gyfle iddo ail-asesu. “Symudais yn ôl i mewn gyda fy rhieni a dechrau gweithio yn eu gardd ac roedd yn rhoi boddhad mawr. A dechreuais wirfoddoli gyda Stump Up For Trees, yr elusen creu coetiroedd ym Mannau Brycheiniog. Fe wnaeth hynny fy nghadw’n gall, a thrwy sgyrsiau yno dechreuais ddysgu am yrfaoedd nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt pan oeddwn yn gwneud penderfyniadau yn yr ysgol.
“Sylweddolais fod llawer o’r swyddi hynny yn seiliedig mwy yn y gymuned, ac roedd hynny’n apelio’n fawr ataf. Mae’n teimlo mai dyna’r ffordd y dylem fod yn byw ein bywydau: cymdogion yn helpu cymdogion a chadw pethau’n lleol.
“Dw i’n gwybod nawr y byddai’n well gen i fod allan drwy’r dydd nag yn sownd wrth ddesg. Hefyd, rwy’n hoffi’r ffaith, gyda garddwriaeth a gwaith coetir, y gallwch weld yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni ar ddiwedd y dydd.”
Ni fydd sgiliau busnes cronedig Lewis yn cael eu gwastraffu os bydd yn symud i faes garddwriaeth yn llawn amser. Fel y dywed David: “Mae sgiliau busnes da yn hanfodol. Mae pobl yn meddwl bod ffermio a thyfu yn ymwneud â dwylo’n unig. Ond rydych chi’n rhedeg busnes bach ac yn aml yn gwneud 10 swydd wahanol mewn diwrnod, o werthu a marchnata, i gyfrifon, cynllunio a chysylltiadau cwsmeriaid, yn ogystal â’r holl waith caled. Dyna pam mae pobl yn aml yn dweud bod ffermwyr da fel arfer yn bobl fusnes gyflawn.”
Disgwylir i Lewis ddychwelyd i Langtons ym mis Mai, ac mae’n disgwyl dyddiau’r un mor amrywiol. “Rydw i wedi bod yn ymgolli mewn gwaith awyr agored ers tro bellach, o blannu coed i swyddi garddio, felly mae gen i syniad da o ba mor anglamoraidd y gall fod. Mae’n waith caled, ond mae hefyd yn werth chweil oherwydd rydych chi’n cynhyrchu rhywbeth go iawn. Felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weddill y lleoliad.”
O ran unrhyw un sy’n ystyried symud i arddwriaeth, mae gan Katherine y cyngor yma: “Cyn i ni ddechrau ein fferm, yn y bôn, treuliodd David a minnau dair blynedd yn gwylio’r holl dyfwyr anhygoel ar Youtube: mae’n adnodd gwerthfawr iawn. Ond mae cyfleoedd ymarferol fel hyn yn wych, hefyd, oherwydd mae hyfforddeion yn profi amodau go iawn, a phan fydd eu dyddiau’n ymestyn dros ychydig wythnosau neu fisoedd, maen nhw’n cael gweld sut mae prosiect yn datblygu. Felly byddwn i’n dweud ‘dysgwch gymaint ag y gallwch’ o wahanol ffynonellau, ac yna gwnewch hynny!”
* Darparwyd y cymorth yma drwy’r Cynllun Datblygu Cydweithrediad ar Gadwyn Gyflenwi – Dulliau Arloesol a Thwf Cydweithredol CSCDS.
Diweddariadau
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill
Gwelwch y cwbl