Enghreifftiau yw’r rhain o fesurau posibl i fagu diogelwch bwyd yng Nghymru. Rydym yn llunio rhaglen cyfathrebu a seilir ar hyn, gydag argymhellion yr Athro Tim Lang yn ei adroddiad ar ‘gydnerthedd bwyd sifil’ ar gyfer y National Preparedness Commission yn sylfaen i hyn. Byddwn yn cyflwyno’r dadleuon ar wefan newydd, ac wedyn byddwn yn trefnu cyfres o drafodaethau gyda rhanddeiliaid er mwyn llunio argymhellion penodol ar gyfer Cymru.
- Llywodraeth genedlaethol:
- > Datblygu cynllun cydnerthedd bwyd cenedlaethol.
- > Cefnogi adeiladu system fwyd nad yw’n ganoledig gyda chadwyni cyflenwi newydd.
- > Defnogi dadeni ffermio ffrwythau a llysiau ar gyfer marchnadoedd lleol/rhanbarthol.
- > Gwella mynediad y gymuned at dir er mwyn i ffermwyr newydd ehangu eu tyfiant (tebyg i’r Scottish Land Fund).
- > Llunio cynlluniau dognau.
- > Adeiladu systemau rhybudd.
- > Ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch risgiau.
- Rhanbarthol – awdurdodau lleol, Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus, fforymau cydnerthedd rhanbarthol ac ati:
-
- > Magu mentrau ffermio newydd sy’n tyfu bwyd ar gyfer marchnadoedd lleol a rhanbarthol: caffael tir ar gyfer cenhedlaeth newydd o ffermwyr ifanc; annog ffermydd i arallgyfeirio; cefnogi newidiadau mewn rheoliadau cynllunio; magu sgiliau newydd.
- > Creu cadwyni cyflenwi newydd sy’n eiddo i ffermwyr ar gyfer marchnadoedd lleol, rhanbarthol a threfol cyfagos.
- > Datblygu seilwaith cydnerthedd rhanbarthol – cyflenwadau bwyd, prosesu lleol, storfeydd, addysgu’r cyhoedd.
- Cymunedau:
- > Caffael tir i dyfu’n lleol – rhandiroedd, gerddi cymunedol, ffermydd bach ar gyfer ffermwyr newydd.
- > Cynyddu’r galw ar gyfer bwyd lleol (trigolion, ysgolion). Annog diet cyfoethog o safbwynt llysiau sydd yn is o ran carbon.
- > Sicrhau bod bwyd da’n hygyrch i aelwydydd ar incwm isel trwy raglenni cymunedol arloesol.
- > Paratoi ar gyfer argyfyngau: cymunedau’n creu cyflenwad wrth gefn, systemau dosbarthu, arlwyo ar sail grŵp.
- > Addysgu trigolion ynghylch bregusrwydd bwyd, a rhoi cyngor i aelwydydd o ran cyflenwadau yn achos argyfwng.
- Aelwydydd:
- > Dylai aelwydydd sy’n gallu ei fforddio ac sydd â digon o le, gynllunio ar gyfer argyfyngau er mwyn lleihau effaith prynu panig yn achos argyfwng.
Diweddariadau
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill
Gwelwch y cwbl