Learn More

Cynllun peilot tair ffarm fach ger Sarn ym Mhowys

Ar y cyd â Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Cyngor Sir Powys ac eraill – Partneriaeth Ffermydd y Dyfodol – mae Ein Bwyd 1200 yn peilota adeiladu tair fferm fach ar 38 erw o dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys, tu allan i Sarn, pentref ger Y Drenewydd.

Cyflwynwyd y cais cynllunio ym mis Mawrth 2024.

Yn ystod 2024-2025, bydd y cynllun peilot hwn yn dangos:

  • > dichonoldeb derbyn caniatâd cynllunio. Bydd y cais cynllunio’r profi’r canllawiau cynllunio newydd a ddatblygwyd ar y cyd â’r Cyngor i alluogi ffermydd bach i ffynnu.
  • > cost datblygu, manteisio i’r eithaf ar economi ble bynnag fo’n bosibl (er enghraifft, cyfleusterau busnes a rennir a pheth gwaith datblygu a wneir gan ffermwyr sy’n symud mewn gyda gwirfoddolwyr o’r ardal).
  • > dichonoldeb recriwtio ffermwyr. Rydym yn gweithio gyda Choleg y Mynydd Du, sy’n rhedeg Diploma NVQ Lefel 2 mewn Garddwriaeth Atgynhyrchiol, gyda’r Landworkers’ Alliance rhwydwaith o unigolion ledled y DU sy’n chwilio am dir, a sefydliadau ffermio eraill.
  • > y rhent y bydd ffermwyr yn ei dalu.
  • > cael ei dderbyn gan y gymuned leol: gwneud i’r ffermydd edrych yn ddeniadol ac ymgysylltu â phobl leol o ran helpu cenhedlaeth newydd o ffermwyr ar y trywydd iawn.

Ar gyfer tai, dewiswyd ysguboriau Nissen. Mae’r rhain yn addas ar gyfer teuluoedd bach a gellir eu hymestyn dros amser.  Maent yn cael eu hadeiladu i bara am 100 mlynedd, a gellir eu symud i leoliad arall os oes angen.

Llety ysgubor Nissen

Mae’r Bartneriaeth Ffermydd y Dyfodol wedi codi tua 25% o’r cyfalaf sydd ei angen i ddatblygu’r tair fferm.  Byddwn yn brysur yn ystod 2024 yn codi gweddill yr arian!

Diweddariadau

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill

Gwelwch y cwbl