Mae ffrwythau a llysiau’n gyfle neilltuol ar gyfer ffermwyr. Mae prisiau ar gynnydd wrth i newid hinsawdd, rhyfel a rhwystrau economaidd effeithio ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol. Mae galw’n newid wrth i bobl newid eu diet. Ar yr un pryd, mae canolfannau mawr trefol yn dod yn ymwybodol o’r angen ar gyfer gwell diogelwch bwyd ac yn chwilio am gyflenwad bwyd mwy amrywiol, gan gynnwys rhagor o fwyd o ardaloedd gwledig cyfagos. Y broblem yw nad oes unrhyw gadwyni cyflenwi. Os bydd ffermwyr yn tyfu ffrwythau a llysiau, ble fyddan nhw’n eu gwerthu?
Marchnadoedd newydd sy'n ehangu: dinasoedd a chymunedau
Dinasoedd
Rydym yn gweithio gyda Lantra Wales i feithrin cysylltiadau rhwng tyfwyr mentrus ym Mhowys a phrynwyr yn ninasoedd Birmingham a Chaerdydd. Byddwn yn datblygu cadwyn gyflenwi sy’n eiddo i bobl leol, yn cadw’r elw ‘yn agos at y gwreiddiau’, yn cael ein hysbrydoli gan enghreifftiau llwyddiannus o ddulliau tebyg ar draws y DU ac Ewrop.
Cymunedau
Byddwn yn datblygu cylch bwyd lleol ym Mhowys, a ysbrydolir gan “Gylch Bwyd Da” Tamar Grow Local’s “Good Food Loop”. Gwnawn hyn ar y cyd â Bwyd Powys Food, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy’r rhanbarth. Rydym yn codi arian gyda chymunedau unigol i redeg prosiectau sy’n cynyddu’r galw am fwyd a dyfir yn lleol.
Rhwydwaith ffermwyr Erwau Bannau
Rydym wedi creu rhwydwaith o ffermydd bach amaethecolegol, sy’n tyfu’n raddol. Dyma’r sylfaen ar gyfer tyfu cyflenwad a galw’r dyfodol.