Ein prosiectau
Cynllun Peilot Sarn
Tair fferm fach newydd gyda chartrefi ar dir Sirol Powys yn 2025.
Gweithio gyda Chyngor Sir Powys a Partneriaeth Ffermydd y Dyfodol.

Adolygu canllawiau cynllunio.
Gweithio gydag awdurdodau cynllunio i ddatblygu canllawiau cynllunio newydd i alluogi ffermydd newydd â chartrefi.
Dysgu rhagor
Prydlesu ffermdir
Rydym yn gwahodd ffermwyr i brydlesu tir i ffermwyr newydd.
Darllen am y meini prawf ar gyfer tir a brydlesir
Recriwtio ffermwyr newydd
O’r ardal leol, o gymunedau amrywiol yn ein dinasoedd, ac o blith pobl ifanc medrus ledled y DU.
Gan ddechrau gyda ffermydd peilot ym Mhowys
Sicrhau cymorth ariannol i ffermwyr ifanc
Helpu pobl ifanc heb gyfoeth cyfalaf i ddechrau ffermio.
Comisiynwyd ffilm fer, Ein Bwyd, Ein Dyfodol ynghylch trafferthion ffermwyr ifanc wrth geisio cael hyd i dir yn ein rhanbarth. Cafodd ei ffilmio gan Florence Browne a’i chynhyrchu gan ein Cyfarwyddwr, Adam Alexander.
Ein nod
Ein nod yw cael hyd I 1200 erw o dir mewn lleiniau 3-10 erw ar draws Powys, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy er mwyn ffermio ffrwythau a llysiau mewn ffordd gyfoes, fasnachol amaethecolegol ar gyfer marchnadoedd lleol.