
Yn ystod Covid ledled y DU, gwelwyd prynu panig a gwagio silffoedd, gan atal gweithwyr iechyd ac argyfwng yn benodol rhag cael mynediad at fwyd. Mae tlodi bwyd ar gynnydd eisoes, wrth i ryfeloedd, gorgynhesu’r hinsawdd a rhwystrau masnachu arwain at gynnydd mewn prisiau bwyd a gyflenwir trwy gadwyni cyflenwi bwyd byd-eang. Roedd 20% o drigolion Cymru wedi dioddef o brinder bwyd yn 2021-2022 (IPSOS ac Ymddiriedolaeth Trussell, Hunger in Wales, 2023).
Beth fedrwn ei wneud?
Rydym wrthi’n llunio rhaglen i weithio allan gyda phrif randdeiliaid yr hyn y dylai Cymru ei wneud, ond yn y cyfamser, rydym wedi rhestru rhai o awgrymiadau’r Athro Tim Lang.
Ein camau gweithredu

Sioc Bwyd: A yw Cymru'n barod am system fwyd fyd-eang ansefydlog? Senedd, Ebrill 2024
Fe wnaethom lansio sgwrs. Cynhelir gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Prif siaradwr, yr Athro Tim Lang. Yn bresennol oedd Huw Irranca-Davis AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a phanel trawsbleidiol o Aelodau Seneddol.
Ychydig o luniau o’r digwyddiad
Discussions
Trwy weithio gyda sefydliadau rhwydweithiau’r sector, byddwn yn trefnu trafodaethau ar gyfer, ymhlith eraill, llywodraethau lleol, Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned, partneriaethau bwyd cynaliadwy, fforymau cydnerthedd lleol, ffermwyr a sefydliadau addysg uwch.

Gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd newydd yng Nghymru
Datblygu stori i ysbrydoli ein dinasoedd, y Cymoedd a chenhedlaeth newydd o ffermwyr.
Bygythiadau a ffactorau risg

Bygythiadau
Dinistrio ffermio oherwydd digwyddiadau tywydd eithafol a thrychinebau naturiol sy’n cael eu hysgogi gan orgynhesu’r hinsawdd – sychder, llifogydd, tân.
Prinder adnoddau i dyfu a chludo bwyd sy’n achosi i brisiau godi - olew, llafur, cyfalaf, ffosffadau, dŵr glân.
Ymosodedd - rhyfeloedd a therfysgaeth, amharu ar gludo bwyd, yn enwedig trwy ddulliau teithio (e.e. Y Môr Coch) a systemau meddalwedd/lloeren yn rheoli logisteg.
Rhwystrau economaidd - gwrthdaro wrth fasnachu, dwyn/lladrad, ansefydlogrwydd arian cyfred.
Anhrefn cymdeithasol – cronni nwyddau mewn panig, terfysg, ysbeilio.
Technoleg yn methu – meddalwedd, seilwaith.
Argyfyngau iechyd – pandemig, epidemig.

Ffactorau Risg
Yr hinsawdd yn cynhesu a cholli bioamrywiaeth.
Ansefydlogrwydd gwleidyddol - colli ffydd, lledu anwir yn fwriadol, Llywodraeth wan/anghymwys.
Anghydraddoldeb economaidd – mae pobl ar incwm llai’n fwy bregus o ran cynnydd sydyn mewn prisiau bwyd.
Cymdeithas wan - iechyd gwael cyffredinol, ymwybyddiaeth isel o risgiau o ran bwyd, diffyg hawl gwleidyddol, diffyg sgiliau.