Ein Stori
Datblygodd Ein Bwyd 1200 o gyfres o sgyrsiau ar-lein ynghylch bwyd lleol, a drefnwyd yn ystod Covid gyda chefnogaeth y Conservation Farming Trust, elusen gofrestredig yng Nghrughywel. Sefydlwyd Ein Bwyd yn ffurfiol fel cymdeithas budd cymunedol yn 2022, er mwyn cynnig arweinyddiaeth ar lefel leol i ail-adeiladu economi bwyd lleol. Mae’r ddau sefydliad bellach yn gweithio ar sail symbiotig, ac yn cael mynediad at gyllid ac yn gweithredu yn ôl eu cyfansoddiadau unigol.
Mae Ein Bwyd 1200 yn credu mewn newid ar sail graddfa. Er mwyn ymrwymo i hynny, penderfynodd y Cyfarwyddwyr cynnwys 1200 yn rhan o enw’r sefydliad – 1200 erw o dir amaethecolegol yn tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer marchnadoedd lleol. Mae’r targed uchelgeisiol hwn yn ddigon i danio adfer yr economi bwyd lleol yn ei gyfanrwydd, sydd wedi cael ei ddifrodi gan y system fwyd byd-eang ers yr Ail Ryfel Byd.
Cyn ein lansiad ni, cefnogodd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amaeth lansiad Langtons Farm a adeiladwyd ar dir sy’n cael ei brydlesu gan ffermwyr o Grughywel, John Morris, sydd bellach yn un o’n Cyfarwyddwyr ni. Mae Fferm Langtons, sydd wedi dyblu ei maint ers tynnu’r llun yma, yn cyflogi unigolyn fesul erw, a thrwy weithio fel rhan o rwydwaith o ffermydd bach sy’n masnachu ymhlith ei gilydd, yn cyflenwi blychau llysiau wythnosol i 120 o aelwydydd trwy gydol y flwyddyn. Mae’r fferm hefyd yn rhan o raglen caffael bwyd arloesol ar gyfer ysgolion Cymru.
Er hynny, wrth inni geisio efelychu’r model prydlesu gyda thirfeddianwyr a ffermwyr eraill, darganfuwyd nad yw’n bosibl ehangu’r dull hwn o weithio’n gyflym, oherwydd cyfuniad o rwystrau cyfreithiol, ariannol a biwrocrataidd.
Byddwn yn dal ati i geisio cael hyd i ffyrdd i alluogi’r model prydlesu i weithio, fel y gwyddom, mae rhai tirfeddianwyr yn awyddus iawn i wireddu hyn. Ond er mwyn ehangu maint y newid angenrheidiol, a hynny ar gyflymder, rydym wedi dod i’r casgliad taw adeiladu ffermydd bach fforddiadwy ar dir Awdurdodau Lleol neu dir sy’n eiddo i’r gymuned, yw’r ffordd i fynd. A dyma gnewyllyn ein strategaeth bellach.
Ein cyfarwyddwyr
Judy Wayne
Cadeirydd
Mae Judy yn gyn-ymddiriedolwr ac yn is-gadeirydd Garden Organic ac yn arddwr brwd sydd â’i deiliad rhandir ei hun. Mae hi wedi gweithio gyda llywodraethau a darparwyr tai yn y DU ac yn rhyngwladol ar lywodraethu tai, cyllid a darparu gwasanaethau. Yng Nghymru mae hi wedi cefnogi datblygu cymdeithasau tai cymunedol cydfuddiannol.
Duncan Fisher
Cyfarwyddwr a chyd-reolwr
Mae Duncan yn byw yng Nghrughywel ac roedd yn un o sylfaenwr y prosiect ‘Ein Bwyd’. Roedd e’n gweithio gyda James Skinner a Sue Holbrook yn y 1990au i sefydlu’r Travel Foundation. Mae ganddo ddiddordeb cyffelyb mewn lles a datblygiad plant ac mae’n rheoli’r Child and Family Blog yn yrUDA.
Sue Holbrook
Cyfarwyddwr a chyd-reolwr
Mae Sue yn hyrwyddwr datblygu cynaliadwy ac yn gyd-symbylwr y prosiect ‘Ein Bwyd’. Ynghyd â James Skinner a Duncan Fisher, helpodd i greu’r Travel Foundation i wella cynaliadwyedd twristiaeth yn rhyngwladol. Hi oedd y Prif Swyddog Gweithredol am ei 10 mlynedd gyntaf arobryn. Ar hyn o bryd, ei hangerdd yw gwneud bwyd iach, lleol yn norm.
Adam Alexander
Cyfarwyddwr
Mae Adam, sydd â phrofiad oes o dyfu ffrwythau a llysiau, yn eiriolwr brwd dros ailgysylltu pobl â’u diwylliant bwyd lleol. Mae’n gweithio gyda’r Heritage Seed Library gan ganolbwyntio ar adnabod a thyfu llysiau treftadaeth Gymreig ac etifeddol gyda’r nod o’u gwneud yn hygyrch i dyfwyr a defnyddwyr lleol.
Patrick Hannay
Cyfarwyddwr
Mae Patrick yn newyddiadurwr a phensaer, ar hyn o bryd fe yw cadeirydd Tref Trawsnewid y Fenni ac yn un o sylfaenwyr y grŵp JUST FOOD yn ogystal ag aelod o Gynghrair Gweithwyr Tir Cymru. Er pum mlynedd ar hugain, mae wedi golygu ‘Touchstone’, Cyfnodolyn Pensaernïaeth yng Nghymru.
John Morris
Cyfarwyddwr
Mae John yn rhedeg fferm organig 70 erw ger Crucywel. Mae wedi arallgyfeirio i nifer o fusnesau, gan gynnwys Welsh Farmhouse Applejuice, sydd â Gwarant Brenhinol ar hyn o bryd. Yn 2020, fe rentodd rywfaint o’i dir ar gyfer sefydlu prosiect gardd farchnad a ffermio adfywiol ar raddfa fach lwyddiannus.
Dianne Spencer
Cyfarwyddwr
Newyddiadurwr yw Dianne ac wedi ysgrifennu am fwyd ers dros 20 mlynedd, ac yn tyfu, piclo a chyffeithio ei bwyd ei hun am y 15 mlynedd diwethaf. Mae hi’n angerddol am feithrin gwydnwch lleol ac mae wedi bod yn allweddol mewn perthynas â dau gynllun cyfranddaliadau cymunedol llwyddiannus ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy lleol gyda gwerth cyfanswm o bron £1m.
John Wheelock
Cyfarwyddwr
Mae John yn rhedeg stad 425 erw ger Trefynwy gyda’i frawd. Mae’r tir fferm yn cael ei osod a’r coetir yn cael ei reoli mewn llaw. Maent wedi arallgyfeirio i osodiadau gwyliau, preswyl a masnachol a chynhyrchu ynni solar a biomas. Ar ôl rhoi’r gorau i ffermio am resymau iechyd, cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig.