Ein Bwyd 1200
Ein nod yw cael hyd i 1200 erw o dir mewn lleiniau 3-10 erw eu maint ar draws Bannau Brycheiniog a Phowys ar gyfer mentrau ffermio ffrwythau a llysiau atgynhyrchiol, cyfoes, masnachol i farchnadoedd lleol.Rydym yn un o bartneriaid gweithredu cynllun rheoli newydd radical Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog trwy helpu cyflawni amcanion radical o ran bwyd, yr hinsawdd, natur a phobl.
Rydym am greu system ffermio wydn sy’n:

Fach ei maint, hynod gynhyrchiol ac yn hyfyw o safbwynt masnachol.

Helpu darparu diogelwch bwyd yng Nghymru.

Rhoi cyfle i bobl sy’n dlawd o safbwynt asedau, yn enwedig ein pobl ifanc, gael mynediad at dir a dechrau menter ffermio atgynhyrchiol.

Hyrwyddo cymuned trwy fasnachu lleol a pherchnogaeth gyffredin, gymunedol o’n tirwedd – “economi sylfaenol”.

Atgynhyrchiol ei natur: yn magu bioamrywiaeth, yn gwella iechyd y pridd ac yn atafaelu carbon yn y pridd, gan osgoi defnyddio cemegau niweidiol a llygredd, a chynhyrchu llawer o fwyd mewn ardal fach er mwyn gallu gadael mwy o dir er budd natur.

Creu cadwyni cyflenwi byrion sy’n cadw llif arian ac elw yn yr ardal leol, a hynny ar raddfa sy’n agor cyfleoedd newydd ar gyfer pob ffermwr lleol.

Lleihau effaith ein defnydd o fwyd a diod ar allyriadau carbon a datgoedwigo ar draws y byd.

Sicrhau fod ffrwythau a llysiau ffres, llawn maeth, a dyfir yn lleol, ar gael i bawb yn ein rhanbarth.

Darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant mewn cymunedau a helpu meithrin cysylltiadau newydd gydag a dealltwriaeth o’n tir.
Ein Strategaeth
Ar y cyd â’n partneriaid, rydym yn gweithio er mwyn:

Prynu tir sy’n eiddo i’r gymuned ar gyfer ffermydd bach newydd
Rydym yn llunio cynllun i geisio a phrynu tir i’w ddatblygu’n ffermydd bach gyda chartrefi.

Ail-ddefnyddio tir cyhoeddus
Ym Mhowys, rydym wedi gweithio ar astudiaeth dichonoldeb er mwyn rhannu un o ffermydd y sir yn grŵp o bedwar o ffermydd bach 3-10 erw’r un, gyda chartrefi fforddiadwy. Mae gan Bowys 130 o ffermydd sirol, yng ngogledd y sir yn bennaf. Credwn fod y model hwn yn addas i ddefnyddio tir sy’n eiddo i’r cyhoedd er mwyn ail-adeiladu system bwyd gwydn.

Ymgysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr presennol
Rydym yn gwahodd ffermwyr a thirfeddianwyr i fabwysiadau arferion ffermio atgynhyrchiol, yn ogystal â rhannu tir, stacio mentrau, cyfamodau prydlesu a thyfu lleol i ganiatáu tyfu cnydau ar gyfer y gymuned leol, gan ganiatáu creu mentrau ffermio bach gyda chartrefi ar eu tir.

Dylanwadu ar bolisi cynllunio
Rydym yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys ar ganllawiau cynllunio newydd sy’n caniatáu i ffermwyr fyw ar ffermydd ffrwythau a llysiau bach masnachol. Comisiynwyd adroddiad ar sut i newid rheoliadau cynllunio.

Cael hyd i ffermwyr newydd
Rydym yn gweithio gyda Choleg y Mynydd Du i ddatblygu llif ffermwyr newydd i’r rhanbarth trwy eu cwrs garddwriaeth.

Rhwydwaith rhanbarthol o ffermydd
Rydym yn creu rhwydwaith o ffermydd bach, 20 ohonynt ar hyn o bryd. Mae rhwydwaith cadarn sy’n cefnogi marchnata, masnachu ymhlith ei gilydd a datblygu’r gweithlu yn rhan hollbwysig o’r seilwaith i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector. Mae’r rhwydwaith wedi lansio gwefan marchnata Erwau Bannau.
Yr Heriau sy’n ein hwynebu

Cyflenwad Bwyd Annibynadwy
Mae’r cadwyni bwyd rydym yn dibynnu arnynt yn llwyr, yn cael eu tanseilio gan newid hinsawdd a rhyfel. Rydym yn mewn perygl dybryd o fethiannau yn ein cyflenwad bwyd.

Allyriadau Carbon
Mae defnydd o fwyd a diod yn gyfrifol am yr allyriadau preswyl carbon uchaf o bell ffordd yn ein rhanbarth.

Llygru’r dŵr
Mae llygredd ffosffadau a nitradau sy’n deillio o ffermydd a charthffosiaeth yn lladd ein hafonydd, ac erbyn hyn mae mor ddifrifol y bu’n rhaid atal adeiladu cartrefi newydd ar draws dalgylchoedd yr afonydd Gwy ac Wysg.

Mynediad at dir
Ar hyn o bryd, ychydig iawn o gymhelliant sydd i dirfeddianwyr dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer yr economi lleol. Yn y cyfamser, mae’r sawl sydd am gychwyn, yn methu cael hyd i dir.

Ffermio dan bwysau
Mae pwysau anhygoel ar fusnesau ffermio presennol, yn bennaf oherwydd y prisiau isel sy’n cael eu gorfodi gan gadwyni cyflenwi cyfredol.

Pobl ifanc yn gadael
Mae diffyg tai fforddiadwy a swyddi da’n gorfodi pobl ifanc i symud i ffwrdd, ac yn lladd cymunedau gwledig.
Erw hyd yn hyn
Erw eu hangen eto
O flynyddoedd yn weddill i’w wireddu
Diolch o galon i’n holl gefnogwyr


Os hoffech wybod rhagor, croeso ichi gysylltu â ni.